Casgliadau Celf Arlein

Teulu Harri VIII: Alegori o'r Olyniaeth Duduraidd

HEERE, Lucas de (1534 - 1584)

[delwedd: Teulu Harri VIII: Alegori o'r Olyniaeth Duduraidd]

Cyfrwng: olew ar banel

Maint: 131.2 x 184.0 cm

Derbyniwyd: 1991; Rhodd; Derbyniwyd gan Lywodraeth E.M. yn lle treth etifeddiaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 564

[delwedd: Prynu print]

Mae’r darlun hwn yn dathlu’r heddwch a sefydlodd y Frenhines Elisabeth I. Mae Elisabeth ar y dde yn dal llaw Heddwch ac mae Digonedd yn ei dilyn. Mae ei thad Harri VIII, sylfaenydd Eglwys Loegr, yn eistedd ar ei orsedd gan drosglwyddo cleddyf cyfiawnder i’w fab Protestannaidd, Edward VI. Ar y chwith mae hanner chwaer ac olynydd Elisabeth, y Babyddes Mari I a’i gŵr Philip II o Sbaen, gyda Mawrth, Duw Rhyfel. Mae'r llun, rhodd gan y Frenhines Elizabeth i Syr Francis Walsingham, yn enghraifft dda o ddiddordeb yr unfed ganrif ar bymtheg mewn alegorïau, gweledigaeth y Frenhines ohoni ei hun fel penllanw'r olyniaeth Duduraidd a'i phryder am gyfreithlondeb ei theyrnasiad.

Daeth Lucas de Heere i Lundain o Ghent ddiwedd y 1560au. Roedd yn un o nifer o arlunwyr a chrefftwyr Protestannaidd o Fflandrys a benderfynodd ffoi rhag erledigaeth grefyddol. Derbyniwyd y peintiad hwn dan y cynllun 'in lieu in situ'. Prynwyd y llun gan J.C.Dent yn arwerthiant casgliad Horace Walpole yn Strawberry Hill, ym 1842.

Mae'r gwaith hwn allan ar fenthyg ar hyn o bryd

2 sylw

Amgueddfa Cymru ar 14 Rhagfyr 2010, 14:22

Dear Hilde, thank you for your comment. I have forwarded in to our Image Licensing Officer who will be in touch regarding use of this picture.
Thank you for your interest in Amgueddfa Cymru.
Graham Davies
Curator, Rhagor.

Hilde R. Johnsrud ar 14 Rhagfyr 2010, 14:19

The Norwegian Book Clubs are presenting David Starkeys biography of Elizabeth as our main selection, and we're wondering whether it'd be possible to use this picture in connection with the book?
We will of course print due credit and we can pay up to £250 (high res version).
Please contact me at hilde.r.johnsrud@bokklubben.no

Gadael sylw


Pori artistiaid

Pori artistiaid yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall