Casgliadau Celf Arlein
Llywelyn [Llewellyn]
GRIFFITH, James Milo (1843 - 1897)

Cyfrwng: cerfwedd farmor
Maint: 41.1 cm
Derbyniwyd: 1912; Trosglwyddwyd; Amgueddfa Dinas Caerdydd
Rhif Derbynoli: NMW A 1722
Mae'n debyg fod hwn yr un fath â'r Pen Medaliwn mewn Marmor dyddiedig 1870 sydd yn y rhestr o weithiau'r arlunydd. Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf (m.1282,) yw'r testun. Hwyrach ei fod yn gymar i Alto Relievo, Pen Buddug gan Griffith a welwyd ym 1870 yng Nghaerdydd. Mae Llywelyn a Buddug ymhlith cerfluniau'r arwyr Cymreig sydd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd a agorwyd ym 1916.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 6
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw