Casgliadau Celf Arlein
Katherine Cox (1887-1934)
GRANT, Duncan (1885 - 1978)

Dyddiad: 1913
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 75.9 x 62.7 cm
Derbyniwyd: 1965; Rhodd; Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru
Rhif Derbynoli: NMW A 2155
Bu Grant yn astudio yn Ysgol Gelf Westminster ac ym Mharis. Darganfu Ôl-Argraffiadaeth drwy arddangosfeydd arloesol Roger Fry ym 1910 a 1912. Peintiwyd y portread hwn yn y flwyddyn y gwnaed Grant yn gyfarwyddwr Gweithdy Omega Fry. Mae ei liwiau trwchus yn ein hatgoffa o Matisse a'r Fauves. Roedd Katherine neu 'Ka' Cox (1887-1934) yn aelod o gylch Rupert Brooke a elwid yn Neo-Baganiaid. Roedd yn arbennig o gyfeillgar â Virginia Woolfe, a byddai'n aml yn eistedd i Duncan Brown ym 1912-13. Byddai Cox yn gwisgo mewn ffordd arbennig iawn a bron bob amser yn gwisgo pince-nez.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 14
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw