Casgliadau Celf Arlein
Mornington Crescent
GORE, Spencer (1878 - 1914)

Dyddiad: 1911 c.
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 51.0 x 61.3 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2252
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Ganed Gore yn Epsom a bu'n astudio yn Ysgol Gelf Slade. Cyfarfu â Sickert ym 1904 ac roedd cysylltiad agos rhyngddo a Gilman. Ym 1911 gwnaed ef yn llywydd cyntaf Grŵp Camden Town. O 1909 byddai Gore yn gwneud darluniau'n aml o'r stryd anffasiynol hon ger stiwdio Sickert. Mae'r olygfa hydrefol hon o tua 1911-13 yn un o nifer gan Gore sy'n darlunio gerddi blaen Mornington Crescent. Prynwyd y gwaith gan Margaret Davies ym 1962.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 15
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft








Gadael sylw