Casgliadau Celf Arlein
Y Gwehydd
GONCHAROVA, Natalia (1881 - 1962)

Dyddiad: 1910
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 154. 4 x 99.8 cm
Derbyniwyd: 1975; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2056
Merch i bensaer oedd Goncharova a fu'n astudio celf yn Moscow, lle cyfarfu â'i chyfaill oes, y peintiwr Mikhail Larionov. Ym 1911 gwnaeth Goncharova ei chynlluniau cyntaf ar gyfer ballet Rwsiaidd Diaghilev, ac ym 1917 aeth i Baris i fyw. Mae'r cyfansoddiad Dyfodolaidd bywiog hwn o 1912-13 yn darlunio merch â sgarff am ei phen yn pwyso ar ŵydd sy'n cael ei oleuo gan olau trydan.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw