Casgliadau Celf Arlein
Glaw - Auvers
GOGH, Vincent van (1853 - 1890)

Dyddiad: 1890
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 50.3 x 100.2 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2463
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Yn mis Mai 1890, symudodd Van Gogh o Arles yn Provence i bentref Auvers-sur-Oise, i'r gogledd o Baris. Yno bu'n lletya yn y Café Ravoux yn cael triniaeth gan Dr Paul-Ferdinand Gachet. Rhwng 17 Mehefin a 27 Gorffennaf, peintiodd Van Gogh dri ar ddeg o gynfasau sgwâr o'r gerddi a'r caeau o gwmpas Auvers. Yn ei lythyr olaf, dywedodd ei fod 'wedi llwyr ymgolli yn yr ardal helaeth o gaeau gwenith yn erbyn y bryniau, mor ddiderfyn â'r môr, o liw melyn cain, lliw gwyrdd cain, fioled cain darn o bridd wedi ei droi a'i chwynnu.' Daw'r ffordd y mae'n trin glaw fel llinellau lletraws o'r toriad pren Pont yn y glaw gan yr arlunydd Siapaneaidd Hiroshige, arlunydd yr oedd wedi copïo ei waith ym 1887. Mae'r awyrgylch yn ein hatgoffa o un o hoff gerddi Van Gogh,
The Rainy Day gan Longfellow: 'My life is cold, and dark, and dreary; It rains, and the wind is never weary...Into each life some rain must fall, some days must be dark and dreary.' Saethodd Van Gogh ei hun a bu farw ar 29 Gorffennaf 1890 yn fuan ar ôl peintio'r gwaith hwn. Prynwyd ef gan Gwendoline Davies ym 1920.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 16
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft


Gadael sylw