Casgliadau Celf Arlein
Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nhaernarfon
GILLOT, Eugène Louis (1868 - 1925)

Dyddiad: 1912
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 196.9 x 276.3 cm
Derbyniwyd: 1920; Rhodd; Syr Alfred Mond
Rhif Derbynoli: NMW A 2619
Mab i bensaer oedd Gillot a gafodd ei eni a'i hyfforddi ym Mharis. Dangosodd ei waith yn Arddangosfa Byd Paris ym 1900 ac roedd yn adnabyddus ym Mhrydain am ddarluniau mawr o ddigwyddiadau. Cynhyrchodd Gillot ddau ddarlun arall o ddigwyddiadau swyddogol ym Mhrydain ym 1911, sef Arolwg Spithead a Choroni George V. Mae'r darlun hwn yn dangos Arwisgiad Dafydd, sef Edward VIII yn ddiweddarach, yng Nghastell Caernarfon ar 13 Gorffennaf 1911. Mae'r olygfa tua'r de-ddwyrain o Borth y Brenin. Ar y chwith mae Porth y Frenhines ac y dde y Tŵr Du. Yn y blaendir mae'r prif lwyfan â cherflun o Ddewi Sant arno. Mae Tywysog Cymru yn darllen ei araith yn union ar ôl ei arwisgiad. Wrth ei ymyl mae'r Brenin Siôr V yn eistedd mewn gwisg forwrol a'r Frenhines Mary mewn gwisg a het wen. O gwmpas y llwyfan mae pobl bwysig mewn lifrai a gwisgoedd derwyddol ac ar y chwith mae côr yn eistedd, yn cynnwys 200 o ferched mewn gwisg Gymreig. Ar ragfuriau Porth y Frenhines mae Trympedwyr Gwŷr Meirch y Teulu. Cafodd y darlun hwn ei gomisiynu gan Syr Alfred Mond, sef y Barwn Melchett wedyn (1868-1930). Ef oedd sylfaenydd ICI a rheolai hefyd y rhan fwyaf o faes glo carreg Cymru. Roedd yn bresennol yn yr Arwisgiad gan ei fod yn AS Rhyddfrydol dros Abertawe o 1910 i 1923.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw