Casgliadau Celf Arlein
John Gibson (1790-1866)
GILBERT, John Graham (1794 - 1866)

Dyddiad: 1848
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 63.7 x 51.0 cm
Derbyniwyd: 1912; Trosglwyddwyd; Amgueddfa Dinas Caerdydd
Rhif Derbynoli: NMW A 432
Ganed John Gibson (1790-1866) ger Conwy, a daeth yn un o gerflunwyr mwyaf nodiedig y 19eg ganrif. Ar ôl cael ei hyfforddi yn Lerpwl symudodd i Rufain. Yno aeth i weithio yn stiwdio Canova, cerflunydd mwyaf ei gyfnod. Ei uchelgais oedd cerfio ffigyrau delfrydol o'r duwiau a'r duwiesau. Astudiaeth oedd y portread hwn, a beintiwyd tra oedd Gibson yn aros gyda'r arlunydd, ar gyfer y portread a welwyd yn yr Academi Frenhinol ym 1848.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw