Casgliadau Celf Arlein
Teiresias yn darogan y Dyfodol wrth Odysseus [Teiresias foretells the Future to Odysseus]
FUSELI, Henry (1741 - 1825)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 91.0 x 77.8 cm
Derbyniwyd: 1973; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 80
Bu'r arlunydd Fuseli o'r Swistir yn astudio yn Rhufain cyn ymsefydlu yn Lloegr ym 1779, lle daeth yn enwog am ei luniau ar themáu llenyddol. Roedd yn gyfaill i Mary Wollstonecraft a William Blake ac etholwyd ef yn Athro Peintio a Cheidwad yr Academi Frenhinol. Bu gan Fuseli ddiddordeb yn Odyssey Homer ers y 1760au. Cyhoeddwyd hwn fel engrafiad ym 1804 ac mae'n dangos Odysseus yn ymweld â Teiresias yn yr Isfyd. Rhwng y ddau mae cysgod Anticleia, mam Oddyseus.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw