Casgliadau Celf Arlein
William Vaughan (d.1775)
FELLOWES, James (1710 - 1751)
[delwedd: William Vaughan (d.1775)]
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 87.0 x 73.6 cm
Derbyniwyd: 1993; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2413
Mae'r tebygrwydd rhwng y llun hwn a phortreadau wedi'u llofnodi o wraig a merch y dyn syddyn y llun yn awgrymu mai Fellows a beintiodd ef, ym 1751. Yn ôl y nodyn ar gefn y llun William Vaughan (~1707-1775) o Gorsygedol, Sir Feirionnydd, yw'r gwrthrych. Hanai o hen deulu, disgynyddion honedig o un o wardiaid Llywellyn Fawr. Cafodd ei addysg yng Nghaergrawnt, bu'n AS yn Sir Feirionnydd, ac ef hefyd oedd 'Prif Lywydd' cyntaf Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion. O Nannau, ger Dolgellau, y daeth y llun hwn.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd
0 sylw
Gadael sylw