Casgliadau Celf Arlein
Anfarwoldeb
FANTIN-LATOUR, Henri (1836 - 1904)

Dyddiad: 1889
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 116.2 x 87.3 cm
Derbyniwyd: 1974; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2462
Mae awen adeiniog ‘Anfarwoldeb’ yn dal palmwydden buddugoliaeth wrth iddi wasgaru blodau ar fedd ‘DELACROIX’. Tu ôl iddi, mae tyrrau Eglwys Gadeiriol Notre Dame a chromen cofeb genedlaethol y Pantheon i’w gweld uwchlaw’r gorwel ym Mharis. Bu gwaith Eugène Delacroix (1798-1863) yn gryn ddylanwad ar Fantin-Latour, ac roedd ei ddefnydd o ffurfiau a lliwiau naturiaethol yn destun dadlau ymhell ar ôl iddo farw.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw