Casgliadau Celf Arlein
Portread o Ddyn
DYCK, Sir Anthony van (1599 - 1641)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 65.5 x 56.0 cm
Derbyniwyd: 1968; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 36
Dangosir yr eisteddwr anhysbys o’r ochr gyda’i goler mawr, ei fwstas llipa a’i lygaid dyfriog, mewn siâp hirgrwn ffug – dyfais boblogaidd o’r cyfnod. Van Dyck oedd artist cynorthwyol mwyaf llwyddiannus a thalentog Rubens. Aeth i arlunio yn yr Eidal a pherffeithio’i arddull fawreddog o greu portreadau, cyn cyrraedd Lloegr ym 1632 i weithio fel artist llys y Brenin Siarl I, a’i hurddodd yn farchog yn fuan wedi iddo gyrraedd.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 3
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw