Casgliadau Celf Arlein
Cerddwyr y Nos
DAUMIER, Honore (1808 - 1879)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 28.9 x 18.7 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2452
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae’r amlinellau duon a’r diffyg pwyslais ar oleuni a thywyllwch yn dangos profiad Daumier mewn darlunio a phrintio. Enillodd ei blwyf fel gwawdlunydd dychanol yn gyntaf cyn mentro i greu darluniau olew wedyn. Dyma enghraifft gynnar o’i waith. Mae dillad y ffigyrau yn pwysleisio’r gwahaniaeth o ran dosbarth cymdeithasol – ac efallai’n cyfeirio at bynciau gwleidyddol y cyfnod.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw