Casgliadau Celf Arlein
Cerbyd Trydydd-dosbarth
DAUMIER, Honore (1808 - 1879)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 26.0 x 33.5 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2455
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Er mai ychydig iawn o fanylion sydd yn y braslun olew brysiog hwn, mae’n llawn mynegiant. Mae Daumier yn llwyddo i gyfleu anesmwythder y cerbyd gorlawn, ac yn awgrymu cymeriad y teithwyr trwy’u gwisgoedd a’u hosgo. Roedd gwaith Daumier yn ymdrin â materion dosbarth cymdeithasol yn aml, a’r cerbyd trydydd dosbarth oedd un o’i hoff themâu ar ddechrau’r 1860au. Mae fersiynau mwy cyflawn a gorffenedig o’r testun hwn ar gael hefyd.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw