Casgliadau Celf Arlein
Bore ar Afon Oise, Auvers
DAUBIGNY, Charles François (1817 - 1878)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 20.8 x 41.9 cm
Derbyniwyd: 1961; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2448
Astudiaeth o olau yn hytrach na’r dirwedd yw hon. Roedd gan Daubigny gwch arbennig o’r enw ‘Le Botin’ wedi’i addasu’n stiwdio, a byddai’n rhwyfo hwn i ganol yr afon. Oddi yma, gallai werthfawrogi effaith lawn yr awyr yn adlewyrchu ar y dwˆr. Yn arloeswr peintio yn yr awyr agored, cafodd ddylanwad allweddol ar Argraffiadwyr fel Claude Monet.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw