Casgliadau Celf Arlein
Doethineb yn cefnogi Rhyddid
DALOU, Jules (1838 - 1902)

Dyddiad: 1889
Cyfrwng: efydd
Maint: 59.7 cm
Derbyniwyd: 1978; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2515
Mae ffigwr Doethineb, sy’n gwisgo helmed Rufeinig a mantel glasurol, yn ymdrechu i godi Rhyddid wrth i’w thraed lithro’n beryglus dros waelod y cerflun. Mae’n noeth a bregus, ar wahân i’w chap rhyddid neu Brygiaidd, symbol grymus o ryddid a chwyldro Ffrengig. Dyma astudiaeth fechan ar gyfer cofeb Dalou i’r gwleidydd Gweriniaethol, Léon Gambetta.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw