Casgliadau Celf Arlein
Portread o Ddyn
DALOU, Jules (1838 - 1902)

Dyddiad: 1873
Cyfrwng: terracotta
Maint: 55.9 cm
Derbyniwyd: 1993; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2505
Er na wyddom pwy’n union yw’r gwˆr hwn, mae ei gap yn awgrymu mai cerflunydd ydoedd. Mae ei fynegiant sensitif a manylder cain ei wyneb a’i farf yn dangos bywiogrwydd techneg Dalou. Fe’i hystyriwyd yn un o gerflunwyr Ffrengig pwysicaf y cyfnod, ochr yn ochr ag Auguste Rodin a Jean-Baptiste Carpeaux. Bu’n ysbrydoliaeth i lawer fel athro, yn Ffrainc a Phrydain.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw