Casgliadau Celf Arlein
Dameg y Deillion
CUYP, Benjamin Gerritsz (1612 - 1652)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: fr. 76.5 x 70.5 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 30
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae dau gardotyn dall yn igam-ogamu drwy’r tirlun, eu dallineb yn symbol o anwybodaeth a ffolineb dyn. Rhybuddia’r ddameg o’r Beibl (Mathew 15:14)‘Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew’. Roedd Benjamin Cuyp yn arbenigo mewn golygfeydd o fywyd gwerin ac o gymeriadau o’r Beibl. Yn y darlun mae’n dehongli gwrthdaro ysbrydol y cyfnod cythryblus. Roedd yn ewythr i’r tirluniwr enwog, Aelbert Cuyp.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 3
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw