Casgliadau Celf Arlein
Tirlun gyda Chastell Ubbergen
CUYP, Aelbert (1620 - 1691)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 42.5 x 51.3 cm
Derbyniwyd: 1963; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 23
Mae heusor a’i wartheg yn oedi wrth lannau’r afon Rhein, wrth i fonheddwr farchogaeth tuag ato’n araf. Yn y pellter, mae amlinell aneglur Castell Ubbergen. Roedd y castell yn y cefndir, a ddymchwelwyd ym 1712, ger Nijmegen ar Afon Rhein. Roedd y castell yn symbol o wrthryfel yr Iseldirwyr yn erbyn byddin Sbaen ac yn ennyn cryn falchder cenedlaetholgar. Cafodd Cuyp ei hyforddi yn Dordrecht ac roedd yn weithgar yno. Roedd yn un o brif beintwyr tirluniau'r Iseldiroedd yn yr 17eg ganrif. Er nad aeth Cuyp erioed i’r Eidal ei hun, mae goleuni euraidd yr Eidal yn tywynnu o’i dirluniau, sy’n debyg i’r hyn a welai yng ngweithiau ei gyfoedion oedd wedi teithio yno. Oherwydd ei dirweddau bryniog mewn golau euraid, gelwid ef yn 'Claude yr Iseldiroedd'. Mae'n debyg fod y darlun hwn yn perthyn i ganol y 1650au ac yr oedd eisoes ym Mhrydain erbyn y 18fed ganrif.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 3
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw