Casgliadau Celf Arlein
Model yr Arlunydd [The Artist's Model]
BARGUE, Charles (1826 - 1883)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 23.6 x 16.4 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2425
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Er mai ym 1874 y cafodd hwn ei beintio, mae manylion yr ystafell a gwisg y ffigwr yn perthyn i gyfnod rhyw gan mlynedd ynghynt. Mae darluniau tebyg o’r gorffennol yn cyferbynnu â’r golygfeydd modern a gafodd eu harddangos gan yr Argraffiadwyr yn yr un flwyddyn. Astudiaeth yw hon, nid darlun gorffenedig, a dyna pam mae gwaith brwsio’r arlunydd yn debyg i arddull yr Argraffiadwyr.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw