Casgliadau Celf Arlein
Y Pwll
COROT, Jean-Baptiste Camille (1796 - 1875)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 39.4 x 67.9 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2442
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Cyfleu awyrgylch arbennig, nid adrodd stori neu ddangos lle penodol, yw nod y darlun hwn. Mae Corot wedi brwsio’n ysgafn I gyfleu’r golau sy’n newid. Mae’r lliwiau arian golau yn gymysg â fflachiadau cynnil o liw, er enghraifft yng nghapiau’r ffigyrau. Roedd technegau Corot, a ddatblygodd trwy wylio natur yn ofalus, yn sail i dirluniau’r Argraffiadwyr.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw