Casgliadau Celf Arlein
Syr John Aubrey (1650-1700) [Sir John Aubrey (1650-1700)]
CLOSTERMAN, John (1656 - 1713)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 125.1 x 101.3 cm
Derbyniwyd: 1934; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 39
Mae wig lawn a gwisg goeth Syr John Aubrey yn adlewyrchu ei statws uchel mewn cymdeithas. Ef oedd Ail farwnig Llantrithyd, Morgannwg a Siryf Morgannwg ym 1686; bu hefyd yn Aelod Seneddol o 1695 ymlaen. Ganed yr artist John Closterman yn yr Almaen a bu’n hyfforddi ym Mharis cyn symud i Lundain ym 1681. Mae’r lliwiau cyfoethog a’r defnydd moethus a welwn yma yn nodweddiadol o’r Baróc Seisnig.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 10
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw