Casgliadau Celf Arlein
Yn y Caeau ym Mehefin [In the Fields in June]
CLAUSEN, George (1852 - 1944)

Dyddiad: 1914
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 183.0 x 213.7 cm
Derbyniwyd: 1914; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 176
Cafodd Clausen ei eni a'i hyfforddi yn Llundain ac arbenigai ar olygfeydd o fywyd y wlad. Roedd ganddo ddiddordeb angerddol yn effeithiau golau. Mae brasluniau'n dangos iddo fwriadu portreadu chwe neu saith gweithiwr yn y llun anarferol o fawr hwn. Mae'r testun yn ein hatgoffa o waith Millet, ond mae'r awyr helaeth yn ein hatgoffa o luniau diweddar gan aelodau Ysgol yr Hague yn yr Iseldiroedd.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 15
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft








Gadael sylw