Casgliadau Celf Arlein
Y Gwerthwr Rygiau, Tréboul
WOOD, Christopher (1901 - 1930)

Dyddiad: 1930
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 63.5 x 81.3 cm
Derbyniwyd: 2011; Prynwyd; Prynwyd gyda chymorth y Gronfa Gelf (gyda chyfraniad gan Sefydliad Wolfson), Ymddiriedolaeth Derek Williams, Ymddiriedolaeth Gelf Aberhonddu ac unigolyn preifat.
Rhif Derbynoli: NMW A 29686
Mae Wood yn bennaf adnabyddus am y paentiadau a gynhyrchodd yng ngorllewin Cernyw a llydaw o 1928-1930. Cafodd saib o bwysau bywyd ym Mharis ar yr arfordiroedd anghysbell yma, a'r porthladdoedd, y strydoedd cobls a'r pysgotwyr fyddai testunau ei weithiau mwyaf trawiadol. Roedd yn medru cyfleu naws ramantus ac ysbrydol tirlun a phobl Cernyw a Llydaw a'u diwylliant Celtaidd drwy ei arddull uniongyrchol, naïf.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 14
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw