Casgliadau Celf Arlein
Mamolaeth (Dioddefaint)
CARRIÈRE, Eugène (1849 - 1906)

Dyddiad: 1896-97 c.
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 81.3 x 65.4 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2434
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Cafodd Carrière gryn lwyddiant yn Salon 1885 gyda darlun mawr o'r Plentyn claf (Paris, Musée d'Orsay) ac ym 1896-97 rhoes waith o dan yr un teitl i'w gyfaill Auguste Rodin. Mae'r cyfansoddiad hwn o tua 1891-92 yn darlunio Madame Carrière yn dal merch glaf, ei merch Elise, o bosib (g. 1878). Peintiodd yr arlunydd nifer o weithiau gyda'r teitl Maternité, a'r mwyafrif yn cynnwys baban yn hytrach na phlentyn ifanc. Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym 1913.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw