Casgliadau Celf Arlein
Y Bacino di San Marco, gan edrych tua'r Gogledd
CANALETTO, Antonio (1697 - 1768)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 141.3 x 154.0 cm
Derbyniwyd: 1957; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 76
Canaletto oedd y peintiwr mawr cyntaf ar olygfeydd Fenis i arbenigo ar dirluniau topograffyddol a dychmygol. Byddai ymwelwyr Prydeinig รข Fenis yn awyddus iawn i brynu ei luniau, a threuliodd o 1746-55 yn Lloegr. Mae'n debyg i'r llun hwn gael ei lunio tua 1730. Mae'n dangos golygfa o ynys Guidecca tuag at 'Fasn Sant Marc' gyda phrif adeiladau cyhoeddus Fenis, sef y Tolldy, Y Campanile, Basilica Sant Marc a Phalas y Doge.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 4
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw