Casgliadau Celf Arlein
Astudiaeth o Ben [Study of a Head]
BURNE-JONES, Sir Edward (1833 - 1898)

Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 35.5 x 25.6 cm
Derbyniwyd: 1921; Trosglwyddwyd; Ty^ Turner
Rhif Derbynoli: NMW A 244
Astudiaeth yw hon o un o’r cantorion yng nghefndir un o baentiadau enwocaf Edward Burne-Jones, King Copetua and the Beggar Maid (1884, Tate). Dechreuwyd cynllunio’r paentiad yng nghanol y 1870au a treuliodd Burne-Jones nifer o flynyddoedd yn perffeithio’r cyfansoddiad mewn cyfres o ddarluniau a lluniau dyfrlliw. Gwnaed mwyafrif y gwaith ar y paentiad terfynol ym 1883 a dechrau 1884 cyn cwblhau ac arddangos y gwaith yn Oriel Grosvenor, Llundain yng ngwanwyn 1884.
Mwy na thebyg taw’r gantores Jessie Keene (g.1872) yw’r model ar gyfer y darlun, neu o bosibl ei chware hŷn Laura (g.1867/8), fu hefyd yn modelu i’r artist James McNeill Whistler yn y 1880au. Roedd eu mam, Annie, yn modelu’n gyson i Burne-Jones, a gellir ei gweld mae’n debyg mewn gweithiau fel The Golden Stairs (1880, Tate). Daeth chwaer arall, Bessie (g.1878/9), yn un o’i hoff fodelau yn y man a gellir ei gweld hi mewn gweithiau fel Vespertina Quies (1893, Tate) a Love Among the Ruins (1894, Maenordy Wightwick, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 6
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw