Casgliadau Celf Arlein
Maria Morigia Reina
APPIANI, Andrea (1754 - 1817)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 98.5 x 74.3 cm
Derbyniwyd: 1980; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 427
Cafodd Appiani ei eni a'i hyfforddi ym Milan a daeth yn brif bortreadydd Lombardi ar ôl goresgyniad y Ffrancod ym 1795. Ymhlith ei noddwyr roedd nifer fawr o'r rheini a oedd o blaid y Ffrancod, gan gynnwys y cyfreithiwr amlwg ac aelod o gyngor deddfwriaethol y Weriniaeth Cisalpinaidd, Francesco Reina (1770-1825). Mae'n debyg fod y portread hwn o wraig Reina yn dyddio o 1795-1800.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw