Casgliadau Celf Arlein
Yr Ystafell Fach
JOHN, Gwen (1876 - 1939)

Dyddiad: 1926
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 22.2 cm
Derbyniwyd: 2003; Cymynrodd
Rhif Derbynoli: NMW A 26035
Un o ryw ugain o beintiadau olew a arddangosodd Gwen John yn Oriel Chenil, Llundain, yn haf 1926 yw'r darlun bach hwn. Roedd yr arddangosfa hon, a drefnwyd gan ei brawd, Augustus, yn llwyddiant ariannol a beirniadol. Cartref yr artist yn 29 rue Terre Neuve, Meudon, yw'r lleoliad ac mae'r bwrdd a'r tebot yn ymddangos yn aml mewn peintiadau eraill.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd


Gadael sylw