Casgliadau Celf Arlein
Tirlun â Phorth Bwa
PYNACKER, Adam (c.1620 - 1673)

Dyddiad: 1654 c.
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 99 x 129.5 cm
Derbyniwyd: 2002; Prynwyd; ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda chymorth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 23191
Roedd Adam Pynacker yn un o grŵp o artistiaid tirluniau o'r Iseldiroedd a aeth i'r Eidal tua chanol y 17eg ganrif lle, fel Richard Wilson ganrif yn ddiweddarach, cawsant eu hysbrydoli gan olau gwresog y Campagna Rhufeinig. Yr Iseldirwyr Eidalaidd yw'r enw cyffredin ar y grŵp. Pynacker oedd un o brif gefnogwyr yr arddull hon. Ychydig enghreifftiau o waith yr Iseldirwyr Eidalaidd sydd yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, ond mae'r peintiad mawr gan Jan Asselijin yn yr oriel hon yn eithriad i hynny.
Bu Pynacker yn yr Eidal o tua 1645 ymlaen, gan ddychwelyd i'r Iseldiroedd erbyn 1652. Mae'r gwaith hwn yn dyddio o gyfnod yn fuan ar ôl iddo ddychwelyd ac mae'n debyg bod hwn yn un o bâr gyda Tirlun Araul gydag Afon a Mynyddoedd Mawr, sydd i'w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Stockholm. Mae'r cyfansoddiad yn cynnwys rhai o'i hoff fotiffau, fel boncyff drylliog yn y blaendir. Mae archwiliad technegol wedi dangos bod Pynacker wedi bwriadu dangos gwartheg yn dod allan drwy'r porth bwa ac o edrych yn ofalus, gallwch weld un o'r gwartheg o hyd. Mae gwaith cadwraeth wedi cael gwared ar yr haenau o farnais afliw i ddangos holl ogoniant lliwiau gwresog y golau Eidalaidd.
Bu'r llun yn rhan o gasgliad meistr y chwareli, Edward Douglas-Pennant, Arglwydd 1af y Penrhyn (1800-1886) o weithiau'r Hen Feistri. Mae llawer o'i beintiadau yng Nghastell Penrhyn ger Bangor, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o hyd. Mae ei gaffaeliad ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth yn galluogi'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol i arddangos gweithiau cain yr Iseldirwyr yn yr Eidal yn rheolaidd, ac i dynnu sylw at y casgliad celf pwysicaf a grëwyd yng Nghymru yn ystod y 19eg ganrif. Caiff ei arddangos yma am bum mlynedd wedyn caiff ei arddangos yn y Penrhyn a Chaerdydd am yn ail. Caiff ei gynnwys hefyd yn yr arddangosfa fenthyg 'Tirluniau Gwych o'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol' yn Oriel Gelf Fictoria, Caerfaddon rhwng 3 Mai ac 8 Gorffennaf ac wedyn yr Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw