Casgliadau Celf Arlein
Gwynt y Môr [Sea Wind]
YEATS, Jack Butler (1871 - 1957)
(Mae Amgueddfa Cymru'n ymddiheuro nad oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Cyfrwng: olew ar hardbord
Maint: 22.9 x 35.9 cm
Derbyniwyd: 1984; Ar fenthyg; Ymddiriedolaeth Derek Williams
Rhif Derbynoli: NMW A(L) 625
Mab i'r peintiwr Gwyddelig John Butler Yeats a brawd y bardd enwog W. B. Yeats oedd Jack Yeats. Ganed ef yn Llundain a gweithiai i ddechrau fel arlunydd graffig a darlunydd. Symudodd i Iwerddon ym 1910 a dechreuodd beintio lluniau olew. Mae'r lliwiau llachar ac arddull gyfnewidiol, Fynegiannol yr olygfa greigiog hon ar arfordir Iwerddon yn nodweddiadol o'i arddull ddiweddarach.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw