Casgliadau Celf Arlein
Castell Dolbadarn [Dolbadarn Castle]
WILSON, Richard (1714 - 1782)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 92.7 x 125.7 cm
Derbyniwyd: 1937; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 72
Mae'r darlun hwn yn dangos gorthwr crwn y castell a godwyd gan Lywelyn Fawr yn y 13eg ganrif, ar lan orllewinol Llyn Peris. Newidiwyd y dirwedd yn gyfansoddiad clasurol yn null Claude. Mae cymeriad Eidalaidd i'r ffermdy ar y dde, er bod copa'r Wyddfa i'w weld yn y cefndir. Mae'n debyg fod y cyfansoddiad hwn yn deillio o ddechrau'r 1760au. Roedd y castell yn eithriadol boblogaidd ymhlith twristiaid diwedd y 18fed ganrif ac yn ddelwedd ganolog yn hanes Cymru. Yn ddiweddarach bu'n bwnc darlun diploma gan J.M.W. Turner ar gyfer yr Academi Frenhinol.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 7
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw