Casgliadau Celf Arlein
Castell Dinas Bran, ger Llangollen [Dinas Bran Castle, near Llangollen]
WILSON, Richard (1714 - 1782)
[delwedd: Castell Dinas Bran, ger Llangollen]
[delwedd: Castell Dinas Bran, ger Llangollen]
Dyddiad: 1770 c.
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 108.6 x 146.7 cm
Derbyniwyd: 1919; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 3277
Mae'r llun hwn yn cynnwys golygfa o Gastell Dians Brân, ger Llangollen yn Sir Ddinbych. Mae'n perthyn yn agos i olygfa o'r castell hwn a beintiwyd ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn, llun a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1771. Mae Castell Dinas Brân yn agos at Afon Ddyfrdwy ond fe'i hamgylchynnir gan fryniau yn hytrach na thiroedd gwastad arfordirol, fel y gwelir yn y darlun hwn. Mae archwiliad pelydr-X yn awgrymu mai fel golygfa o Tivoli y cychwynnodd y darlun hwn, ac iddo gael ei roi o'r neilltu a'i orffen yn ddiweddarach, ar ôl 1771, gan ddefnyddio astudiaeth o Gastell Dinas Brân.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 4
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft
0 sylw
Gadael sylw