Casgliadau Celf Arlein
Ceffylau'n Ymladd [Fighting Horses]
WARD, James (1769 - 1859)

Dyddiad: 1808
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 100.3 x 135.9 cm
Derbyniwyd: 1971; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 468
Ym 1803 gwelodd Ward y gwaith Golygfa o Château de Steen gan Rubens, a oedd bryd hynny'n eiddo i Syr George Beaumont. Mewn darluniau fel hwn, a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1808, byddai'n dynwared techneg lyfn, fynegiannol y meistr o Fflandrys.Yn wahanol i Rubens, roedd ganddo ddiddordeb mawr yn ffyrnigrwydd ceffylau wrth ymladd - thema glasurol a gafodd ei hadfywio yn ystod y Dadeni a'i thrafod yn fwy diweddar gan George Stubbs. Yma mae'r meirch yn cynrychioli nwyd di-reolaeth a greddf naturiol.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw