Casgliadau Celf Arlein
Gwaith Dur, Caerdydd liw Nos [Steel Works, Cardiff at Night]
WALDEN, Lionel (1862 - 1933)

Dyddiad: 1893-97
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 22.6 x 29.9 cm
Derbyniwyd: 1917; Rhodd; Herbert Charles Sheppard
Rhif Derbynoli: NMW A 2054
Bu'r peintiwr Americanaidd Lionel Walden yn astudio ym Mharis ac ymwelodd â Phrydain droeon yn ystod y 1890au. Braslun rhagarweiniol yw hwn ar gyfer peintiad mawr gyda'r un teitl sydd i'w weld ar risiau dwyreiniol yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae'n darlunio ffwrneisi gwaith dur Dowlais, a adeiladwyd ym 1888 ger dociau Caerdydd. Codwyd y gwaith yn wreiddiol ger Merthyr Tudful ym 1759, ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd gwaith dur Dowlais yn yr un o'r rhai mwyaf yn y byd.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw