Casgliadau Celf Arlein
Coed
VLAMINCK, Maurice de (1876 - 1958)

Dyddiad: 1913-1914
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 73.2 x 92.8 cm
Derbyniwyd: 1992; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 709
Mae'n debyg fod yr olygfa hon o 1913-14 yn darlunio glannau Afon Seine ger Bougival. Mae'n enghraifft nodweddiadol o ddiddordeb Vlaminck yn Cézanne, ac mae'r lliwiau glas tywyll a gwyrdd yn nodweddiadol hefyd. Un o grŵp o weithiau gan Vlaminck a brynwyd gan y chwiorydd Davies ym 1920 yw hwn. Rhoddodd Margaret Davies y darlun i rywun arall ychydig cyn ei marw.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 14
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw