Casgliadau Celf Arlein
Bwrw Hagar Allan
VICTORS, Jan (1619/20 - c.1676)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: fr. 141.8 x 165.5 cm
Derbyniwyd: 1975; Rhodd; Mrs Johanna Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 31
Mae Hagar y forwyn yn edrych nôl yn ymbilgar ar Abraham, tad ei mab anghyfreithlon, Ishmael. Mae’n alltudio’r ddau i’r gwyll ar orchymyn ei wraig genfigennus, Sara, sy’n gwylio’n llechwraidd wrth y drws. Roedd Jan Victors yn ddisgybl i Rembrandt, ac mae’n enwog am greu darluniau mawr theatrig o gymeriadau o’r Beibl. Roedd drama emosiynol yr olygfa hon o’r Hen Destament yn apelio’n arbennig ato, ac fe’i peintiodd droeon.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw