Casgliadau Celf Arlein
Syr Thomas Mansel (1556-1631) a'i wraig Jane [Sir Thomas Mansel (1556-1631) and Jane, (Pole) Lady Mansel]
YSGOL BRYDEINIG, 17eg Ganrif

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 121.0 x 125.0 cm
Derbyniwyd: 1984; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 16
Mae Thomas Mansel a’i ail wraig Jane Pole yn dal dwylo yn y portread dwbl yma. Mae ystumiau o anwyldeb fel hyn yn anghyffredin mewn portreadau Prydeinig cynnar. Y Mansels o Abaty Margam, Morgannwg, oedd un o deuluoedd cyfoethocaf y de. Adlewyrchir hyn yng ngwisg ac ystum y pâr. Roedd Thomas yn Aelod Seneddol dros Forgannwg ac yn ffigur amlwg yn Llys y Brenin Iago I. Peintiwyd y llun yma tua 1625 a gwelir gw^r a'i wraig yn dal dwylo. Hwyrach mai symbol o'u merch, Mary, yw'r blodyn Gold Mair sydd yn llaw'r Fonesig Mansel.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 10
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft








Gadael sylw