Casgliadau Celf Arlein
Yr Oleufa [The Beacon Light]
TURNER, Joseph Mallord William (1775 - 1851)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 61.5 x 96.0 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 433
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Cafodd y paentiad hwn ei wrthod fel gwaith dilys ym 1956. Fe’i disgrifir yn y catalog cyflawn o baentiadau Turner, 1977, fel ‘a partly reworked fragment… curiously unauthentic appearance… has certainly been worked on by a hand other than Turner’s’. Ar ôl archwilio’r deunyddiau a’r technegau, fodd bynnag, mae’r arbenigwyr yn derbyn mai ôl llaw Turner a neb arall ydyw.
Mae Turner yn cyfleu effeithiau’r golau ar y môr tymhestlog a’r tonnau gwyllt sy’n tasgu yn erbyn y clogwyn. Ei nod oedd archwilio natur y môr dan awyr gyfnewidiol yn hytrach na phortreadu man penodol. Fodd bynnag, wedi i lun goleudy ar ymyl clogwyn gael ei ddarganfod dan y paent ar yr wyneb, aed ati i ymchwilio o’r newydd i’r lleoliad posibl. Credwyd mai golygfa o Needles ar Ynys Wyth oedd hon yn wreiddiol, ond bellach, mae’n debyg mai’r arfordir rhwng St Margaret’s-at-Cliffe, i’r gogledd o Dover yn edrych tuag at oleudy a goleufa South Foreland ydyw. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gan Turner dŷ yn St Margaret’s-at-Cliffe tua’r cyfnod yma.
Prynodd Gwendoline Davies Yr OIeufa am £2,625 mewn ocsiwn drwy Hugh Blaker ym mis Mehefin 1922.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 9
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft








Pages: 1 2