Casgliadau Celf Arlein
Glanfa Margate [Margate Jetty]
TURNER, Joseph Mallord William (1775 - 1851)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 38.1 x 27.9 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 5186
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Gwrthodwyd y paentiad hwn fel gwaith gan Turner ym 1956, ac mae wedi’i gatalogio fel un ‘yn null’ Turner byth ers hynny. Yn y catalog cyflawn o baentiadau Turner, a gyhoeddwyd ym 1977, mae’n ymddangos yn y rhestr o weithiau nad ydynt yn cael eu priodoli i Turner mwyach. Fodd bynnag, credir erbyn hyn mai darn dilys o gyfansoddiad mwy ydyw, sy’n esbonio’r maint a’r fformat anghyffredin. Hwyrach mai’r darn gorau o gynfas a ddifrodwyd yn sylweddol ydyw, a’i fod wedi’i gadw a’i ymestyn yn y cyfamser. Mae’r gwaith wedi dioddef fodd bynnag – yn ogystal â chael ei dorri, efallai ei fod wedi’i rolio ar un adeg. Mae gwaith dadansoddi’n dangos fod yr olion brwsio a’r detholiad o liwiau a ddefnyddiwyd yn nodweddiadol o baentiadau olew diweddar Turner.
Mae’r paentiad yn dangos y lanfa bren 1100 troedfedd a adeiladwyd ym Margate ym 1824. Roedd llongau stêm yn cludo ymwelwyr i Margate, ac yn angori yn y lanfa pan oedd y dŵr yn rhy isel i ddefnyddio’r harbwr. Byddai Turner wedi gweld yr olygfa hon o’i dŷ llety ym Margate.
Prynodd Gwendoline Davies y braslun olew hwn o Dowdeswell Galleries, trwy Hugh Blaker, ym 1910, yn ogystal â Bad Hwylio ger Deal.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd








Gadael sylw