Casgliadau Celf Arlein
Darlun Plaen o'r Timau a'r Dramiau Glo a ddygwyd i lawr i Billgwenlly gan Samuel Homfray [A Plain Representation of the Teams and Trams of Coal brought down to Pillgwenlly by Samuel Homfray]
THOMAS, John (fl.1821 - )

Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 86.0 x 376.0 cm
Derbyniwyd: 1994; Trosglwyddwyd; Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru
Rhif Derbynoli: NMW A 2834
Roedd Samuel Homfray (1762-1822) yn rheolwr gwaith haearn Penydarren ac ef a hyrwyddodd y dramffordd i Abercynon. Mae'r 'darluniad plaen' hwn gan John Thomas, peintiwr wrth ei grefft a oedd yn bur anhysbys, yn dathlu'r ffaith fod record o lwyth o 70 tunell a 10 cant o lo wedi'i dynnu gan geffylau mewn trên ffordd i Billgwenlli ar gyrion Casnewydd ar 18 Rhagfyr 1821. Gwnaeth Homfray 'gymwynas â thref ac ardal Casnewydd drwy ostwng pris glo'.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw