Casgliadau Celf Arlein
James Dickson Innes (1887-1914)
STRANG, Ian (1886 - 1952)

Dyddiad: 1913
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 40.5 x 32.6 cm
Derbyniwyd: 1948; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 201
Ganed Innes yn Llanelli a bu'n astudio yng Ngholeg Celfyddyd Caerfyrddin ac Ysgol Gelfyddyd y Slade. Bu'n arddangos yng Nghlwb Celfyddyd Newydd Lloegr o 1907 ac roedd yn agos at Augustus John o 1910 hyd ei farw. Dywedodd un o'i gyfoeswyr o'r Slade 'roedd o daldra cymedrol, roedd ganddo wallt du ac wyneb main, a oedd yn olygus gan lawer...efallai bod rhywbeth ychydig yn ddieflig yr olwg amdano...paentiodd Ian Strang lun da ohono'. Bryd hynny roedd Innes eisioes yn marw o'r ddarfodedigaeth.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw