Casgliadau Celf Arlein
Castell y Waun [Chirk Castle]
STEER, Philip Wilson (1860 - 1942)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 45.6 x 68.6 cm
Derbyniwyd: 1942; Rhodd; Yr Arglwydd Kenyon
Rhif Derbynoli: NMW A 584
Dyma olygfa o gastell y Waun ger Wrecsam, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Peintiodd Steer y llun yma ym 1916, pan oedd yn westai i’r Arglwydd Howard de Walden, Cymro ac ysgolhaig oedd yn noddwr brwd i’r byd celf. Roedd gan Steer diddordeb mawr yn nhirlunwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel Turner a Constable. Peintiwyd cymylau llachar y machlud stormus yma’n gyflym, gan ddwyn i gof y ffordd yr oedd yr artistiaid hyn yn ymdrin â goleuni ac effeithiau atmosfferig.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 7
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw