Casgliadau Celf Arlein
Rhedeg i Ffwrdd gyda'r Torrwr Gwallt [Running Away with the Hairdresser]
SINNOTT, Kevin (1947 - )

Dyddiad: 1995
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 160.0 x 216.0 cm
Derbyniwyd: 1996; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Knapping
Rhif Derbynoli: NMW A 3993
Ganed yr arlunydd yng Nghymru a bu'n astudio yng Nghaerdydd, Caerloyw a Llundain cyn dod yn ôl i fyw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae ei luniau'n ymwneud â'r cof, emosiwn a phrofiad yn hytrach nag â digwyddiadau penodol. I ddechrau, gwnaeth lun tywyllach, hanner hyd, o ddyn ar ei ben ei hun, a'r thema waelodol oedd 'gadael eich gorffennol ar ôl'. Mewn gwrthgyferbyniad â'r syniad hwn, sy'n 'ddifrifol, neu hyd yn oed yn rhodresgar', mae'r arlunydd o'r farn fod Rhedeg i Ffwrdd gyda'r Torrwr Gwallt yn cyfleu teimlad o 'ymgollwng am eiliad i fod yn anghyfrifol... amheuaeth aeddfed o syniadau mawreddog ieuenctid'.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Pages: 1 2 3