Casgliadau Celf Arlein
Palazzo Eleanora Duse, Fenis [Palazzo Eleanora Duse, Venice]
SICKERT, Walter Richard (1860 - 1942)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 55.2 x 46.0 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 193
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae'r gwaith hwn yn dangos, ar y chwith, y Palazzo Barbaro-Wolkoff, ac ar y dde y Palazzo Dario ger ceg y Gamlas Fawr. Mae'n debyg i hwn gael ei beintio ym 1901 yn ystod un o'r ymweliadau niferus a wnaeth Sickert â Fenis rhwng 1895 a 1904. Byddai Sickert yn lletya gerllaw ac yn aml yn mynd i'r converzationi yn y Palazzo Dario. Roedd gan yr actores Eleonora Duse (1858-1924) lety ar lawr uchaf y Palazzo Barbaro-Wolkoff. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1935.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw