Casgliadau Celf Arlein
Portread Camden Town [Camden Town Portrait]
SICKERT, Walter Richard (1860 - 1942)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 51.2 x 40.8 cm
Derbyniwyd: 1956; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 192
Ym 1911 yr oedd gan Sickert gysylltiad agos â ffurfio Grŵp Camden Town a barodd am ychydig amser yn unig. Ymhlith yr aelodau eraill yr oedd Harold Gilman, Spencer Gore a Robert Bevan. Mae'r darlun tywyll hwn o liwiau darniog, tywyll yn un o nifer o luniau mewn ystafelloedd gyda ffigwr a gwely haearn a beintiwyd ym 1915-16 yn stiwdio Sickert yn 8 Fitzroy Street. Yma mae'r ffigwr yn bortread maint lawn. Gwelir het y ferch ar y cwpwrdd y tu ôl iddi.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 15
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw