Casgliadau Celf Arlein
Syr Edward (1529-1609) a'r Foneddiges Agnes Stradlinge (1547-1624) [Sir Edward (1529-1609) and Lady Agnes Stradlinge (1547-1624)]
YSGOL BRYDEINIG, 16eg Ganrif

Dyddiad: 1590
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 108.2 x 77.2 cm
Derbyniwyd: 1992; Ar fenthyg; Yr Eglwys yng Nghymru
Rhif Derbynoli: NMW A(L) 803
Mae'r panel hwn yn dangos Syr Edward Stradling (1529-1609) a drosglwyddodd weddillion ei hynafiaid i eglwys Sain Dunwyd, ac a gomisiynodd y paneli coffaol hyn. Bu hefyd yn gyfrifol am godi beddrod o farmor aml-liwiog ar gyfer ef ei hun ac Agnes, merch Syr Edward Gage (Goruchwyliwr Gweision Harri VIII). Fe'u darlunnir gyda'i gilydd yma eto, ac fe'u dangosir yng ngwisg y cyfnod, yn cario llyfrau gweddi. Mae ei arwyddair VERTUES HOLE PARAISE CONSISTETH IN DOING wedi ei arysgrifennu ar y top. Addysgwyd Edward yn Rhydychen ac roedd yn adnabyddus fel hynyfiaethydd, achydd ac ysgolhaig Cymreig a dalodd am gyhoeddi gramadeg Sion Dafydd Rhys, Cambrobrytannicae Linguae Institutiones ym 1592.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw