Casgliadau Celf Arlein
Ar Lan y Môr [At the Seaside]
SHARP, Dorothea (1874 - 1955)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 82.5 x 82.5 cm
Derbyniwyd: 1943; Rhodd; Mrs J. Rattray
Rhif Derbynoli: NMW A 5055
Cafodd Dorothea Sharp y beintwraig tirwedd, blodau a ffigwr ei hyfforddiant yn Ysgol Gelfyddyd Politechneg Regent Street ac ym Mharis. Dangosai ei gwaith yn fynych yn yr Academi Frenhinol, Cymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydain, Y Gymdeithas Celfyddyd Gain ac mewn mannau eraill, gan gynnwys Salon Paris ac yng ngwledydd y Gymanwlad. Bu'n byw yn Llundain a Blewbury yn Swydd Berkshire, ond treuliodd gyfnodau hefyd yn St Ives yng Nghernyw. Mae'r gwaith hwn yn nodweddiadol o'i golygfeydd llawn heulwen, paradwysaidd eu naws o blant neu lan môr, a ysbrydolwyd gan ei chysylltiad â Chernyw. Cafodd y darluniau hyn adferiad enfawr yn eu poblogrwydd yn y 1970au a'r 1980au, ond yn ystod ei bywyd ei darluniau blodau llwyddiannus oedd sail ei bri.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 15
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw