Casgliadau Celf Arlein
Merch wrth Ffenestr
SCHALKEN, Godfried (1643 - 1700)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 32.2 x 26.8 cm
Derbyniwyd: 1921; Trosglwyddwyd; Ty^ Turner
Rhif Derbynoli: NMW A 35
Mae cannwyll yn bwrw golau dramatig ar y ferch wrth iddi agor caead y ffenestr. Mae ei dillad ar hyd y lle; a’i ffrog wedi’i datod i roi cip pryfoclyd o’i bronnau. Dehonglir motif gwraig wrth ffenestr yn aml fel putain yn denu cariadon o’r stryd yn hwyr yn y nos. Schalcken oedd un o arlunwyr mwyaf poblogaidd Dordrecht. Peintiwr portreadau ac arbenigwr ar olygfeydd golau cannwyll oedd Schalken a fu'n byw yn bennaf yn Dordrecht, er iddo dreulio o 1692 i 1697 yn Lloegr. Daeth yn fyd-enwog am ei olygfeydd yng ngolau cannwyll gyda’r nos.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 3
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft


Gadael sylw