Casgliadau Celf Arlein
Tirlun Creigiog gyda Gyrwyr a Gwartheg
ROSA, Salvator (1615 - 1673)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 55.2 x 69.9 cm
Derbyniwyd: 1925; Cymynrodd; Syr Claude Phillips
Rhif Derbynoli: NMW A 8
Yn y tirlun hwn, mae clogwyni serth a choed cam yn codi’n ormesol dros y bugeiliaid islaw. Mae tirluniau Salvator Rosa’n wyllt ac yn dywyll iawn. Anwybyddai’n llwyr y galw am brydferthwch delfrydol, fel y gwelir yn nhirluniau Claude a Poussin. Fe’i gwnaed yn arwr ym Mhrydain yn y ddeunawfed ganrif oherwydd natur nwyfus a dadleuol ei fywyd, a chafodd ei waith gryn ddylanwad ar artistiaid eraill, yn enwedig y Cymro enwog, Richard Wilson.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 2
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw